Sut mae’n gweithio?

 

Os oes gennych anhwylder cyffredin, gallwch ymweld â fferyllfa a gofyn am gyngor gan y fferyllydd. Efallai y bydd y fferyllydd yn gofyn a hoffech gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Drwy gofrestru gall y fferyllydd roi’r feddyginiaeth sydd ei angen arnoch yn rhad ac am ddim.

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

Cewch gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim gan eich fferyllydd cymunedol ar gyfer mân salwch neu anhwylderau cyffredin fel:

• indigestion • constipation • diarrhoea • piles • hay fever • head lice • teething • nappy rash • colic • chicken pox • threadworms • sore throat • athlete’s foot • eye infections • mouth ulcers • cold sores • acne • dry eyes • dermatitis • verruca • back pain • vaginal thrush • oral thrush • scabies • ringworm • interigo • ingrowing toenails

Efallai y bydd angen i chi ddangos rhyw fath o ddogfen adnabod i’r fferyllydd cyn medru defnyddio’r gwasanaeth, ond bydd hynny’n dibynnu a yw’r fferyllydd yn eich adnabod neu beidio.

Bydd y fferyllydd yn gwirio’r manylion yn erbyn Gwasanaeth Demograffig GIG Cymru er mwyn cadarnhau eich bod wedi cofrestru gyda Meddygfa yng Nghymru.

Nid oes angen i chi wneud apwyntiad. Gallwch alw unrhyw bryd sy’n gyfleus i chi.

Cewch ymgynghori â fferyllydd cymwys, mewn ardal gyfrinachol o fewn y fferyllfa.

Os bydd eich fferyllydd yn cytuno bod angen meddyginiaeth neu gynnyrch i drin eich symptomau, gall eu rhoi i chi yn rhad ac am ddim.

Os nad ydych am gofrestru gyda’r gwasanaeth, gall y fferyllydd roi cyngor i chi ond ni fydd modd iddo roi unrhyw feddyginiaeth am ddim. Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth? Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu. Bydd rhaid i chi fynd at eich Meddyg Teulu:

  • Os yw’r fferyllydd yn awgrymu y dylech wneud hynny, neu
  • Os oes angen meddyginiaeth na ellir ei gael heb bresgripsiwn gan eich Meddyg Teulu.

Oes modd i mi fynd i weld fy meddyg teulu beth bynnag?

Gallwch wneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu os ydych yn teimlo y byddai hynny’n fwy priodol.

Oes modd i mi fynd i fferyllfeydd eraill?

Gallwch ddefnyddio fferyllfeydd eraill i brynu moddion neu gasglu presgripsiynau ond cofiwch;

Dim ond yn y fferyllfa lle’r ydych chi wedi cofrestru y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn;

Byddai’n fwy diogel i un fferyllfa yn unig gadw cofnod o’r holl feddyginiaeth yr ydych chi’n eu cymryd, er mwyn sicrhau, os oes unrhyw newid i’ch iechyd, bod eich meddyginiaethau yn parhau i fod yn addas i chi.