Am Y Clwstwr
Mae'r Clwstwr Iechyd Y Ddinas yn grŵp o wyth meddygfa sy'n gweithio mewn partneriaeth â nyrsio cymunedol, deintyddion, optegwyr, fferyllwyr cymunedol y sector gwirfoddol a'r awdurdod lleol.
Gyda'i gilydd mae'r clwstwr yn darparu gofal i oddeutu 50,654 o bobl yn ne-ddwyrain ac ardaloedd canolog Abertawe.
Mae'n cynnwys wyth meddygfa: Canolfan Iechyd Brunswick, Canolfan Feddygol Greenhill, Partneriaeth Feddygol Abertawe, Meddygfa Kingsway, Canolfan Iechyd Mountain View, Canolfan Feddygol Nicholl Street, Canolfan Feddygol SA1 a Chanolfan Iechyd Harbwr.
Arweinydd y Clwstwr yw Dr Ceri Todd.